STEM yng Ngogledd Cymru

13th January 2021
No Comments

Gerallt Hughes, Cydlynydd Treialon AlphaPlus sy’n rhannu mewnwelediad ynglyn â STEM ac addysg STEM yng Ngogledd Cymru.

Drwy gael y cyfle i wneud cryn dipyn o waith ymchwil i bynciau STEM (hynny yw, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, yn Gymraeg) yng Ngogledd Cymru, cefais yr amser i feddwl eto am y gwahanol agweddau ar fy nghefndir a’r profiadau a gefais wrth gael fy magu ac wrth imi fyw yn y rhanbarth. Er nad wyf yn arbenigo ym maes STEM, roedd yn ddiddorol imi gael gweld y pwyslais a roddir arno yng Ngogledd Cymru, fel sy’n amlwg o raglen STEM Gogledd Llywodraeth Cymru.

Mae STEM Gogledd yn ddatblygiad diddorol iawn yn y maes. Mae’n un o nifer o fentrau sy’n arloesi – gan gynnwys Labordy mewn Lori y Sefydliad Ffiseg. Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysg hefyd yn cyllido prosiectau datblygu a gwerthuso yn y maes. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael ar ddiwedd y blog hwn.

Gogledd Cymru

Diffinnir rhanbarth Gogledd Cymru fel ardaloedd y chwe awdurdod lleol Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae rhaniad clir rhwng y dwyrain a’r gorllewin, gyda Wrecsam a Sir y Fflint yn rhan o Ddwyrain Cymru, a chanddynt gysylltiadau cryf â Chaer a Swydd Gaer, a’r pedwar sir arall yn rhan o Ogledd-Orllewin Cymru. Mae’r rhaniad hwn yn adlewyrchu ffyniant cymharol y rhannau gwahanol hefyd, gyda’r Gogledd-Ddwyrain yn perfformio fymryn yn well yn economaidd na’r Gogledd-Orllewin. Adeg ysgrifennu’r erthygl hon, mae’r Gogledd-Orllewin yn dal i dderbyn cyllid gan gronfa datblygu rhanbarthol yr UE hefyd.

Mae hunaniaeth ddiwylliannol a threftadaeth amgylcheddol unigryw gan y rhanbarth, sy’n rhoi ymdeimlad cryf o gymuned. Boed hynny fel y bo, mae nifer o heriau economaidd yn wynebu’r rhanbarth:

  • Mae’r ansicrwydd economaidd a pholisïau cyni wedi cyfrannu at ddiffyg twf yn y rhanbarth yn ehangach.
  • Mae gor-ddibyniaeth ar y sector cyhoeddus wedi creu economi anghytbwys.
  • Mae angen i gwmnïau a chorfforaethau mawr fuddsoddi er mwyn rhoi hwb i’r cyfleoedd gwaith sydd yno, i gynhyrchiant ac i gyflogau.
  • Mae’r bobl ifanc wedi gadael y rhanbarth. Y duedd yw i gyfran fawr o’r bobl ifanc gymwysedig symud i ffwrdd o’r rhanbarth i ddinasoedd mawr fel Manceinion, Lerpwl neu Gaerdydd i chwilio am waith.

Pwysigrwydd y Gymraeg

Yng Ngogledd Cymru mae’r gyfran fwyaf o siaradwyr Cymraeg. Yn fras, po fwyaf i gyfeiriad y gorllewin y teithiwch chi, y mwyaf o siaradwyr Cymraeg y dewch chi ar eu traws. Mae gan Lywodraeth Cymru darged o gael 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ar ddiwedd 2019, roedd  o 891,100 o bobl yn siarad Cymraeg (wedi cynyddu er 2008, pan oedd 726,600), ac mae’r nifer yn parhau i dyfu. Dyma gyfle i ddatblygu’r duedd hon yn unol â’r farchnad swyddi arloesol newydd.

STEM a Gogledd Cymru

Mae gan Ogledd Cymru nifer fawr o ddarparwyr STEM, a chanddynt hanes hir o greu cysylltiadau rhanbarthol effeithiol rhwng y cyflogwyr a’r sawl sy’n darparu addysg. Mae’r rhwydwaith yn un amrywiol a chadarn, ac mae’n cynnig digonedd o gyfleoedd i ddatblygu llwybrau gyrfa i bobl ifanc ac i alluogi a meithrin entrepreneuriaid ifanc arloesol. Mae’r darparwyr hyn yn cynnwys Alwen yng Ngogledd Cymru (Dŵr Cymru), Cwmni First Hydro (Eryri), Sŵ Môr Môn, Bright Sparks, Wrecsam, Partneriaeth 14-19 Sir Ddinbych, Amgueddfa  Lechi Cymru (Llanberis, Gwynedd) – gan enwi ond ychydig o’r enghreifftiau sydd.

Bydd yr entrepreneuriaid ifanc sy’n dechrau troedio ar lwybr eu gyrfa ym maes STEM yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o’r datblygiadau technolegol cyfoes. Os oes llwybr gyrfa clir a chyffrous o’u blaenau, bydd siaradwyr Cymraeg ifanc yn fwy tebygol o aros yn yr ardal; yn aml iawn, maent yn falch o’u gwreiddiau diwylliannol unigryw, ac mae ganddynt gysylltiadau cryf â’r gymuned Gymraeg yn y rhanbarth. Byddai cynnig llwybr gyrfa clir iddynt yn yr ardal leol yn fwy tebygol o ennyn eu brwdfrydedd a’u diddordeb mewn helpu i greu rhywbeth eithriadol, yn ogystal ag yn cryfhau datblygiad yr iaith Gymraeg.

Addysg STEM yng Nghymru

Yn astudiaeth mwyaf diweddar PISA, cafodd Cymru sgôr o 488 am wyddoniaeth, yr isaf o bedair cenedl y DU a sgôr is na’r cyfartaledd o 489[1] ar gyfer cenhedloedd datblygedig (sef yr hyn a elwir yn ‘cyfartaledd yr OECD’). Fodd bynnag, nid oes gwahaniaeth ystadegol sylweddol rhwng sgôr Cymru am wyddoniaeth a sgoriau’r Alban a Gogledd Iwerddon[2] (490 a 491 yn eu tro).

Sgoriau PISA am wyddoniaeth dros y blynyddoedd diweddar (atgynhyrchwyd o WalesOnline)

Yn 2018, dywedodd Gweinidog sgiliau Llywodraeth Cymru fod Cymru yn trafferthu i gael disgyblion, yn enwedig merched, i astudio pynciau STEM[3], ac mae hynny’n broblem sydd i’w gweld ar draws y pedair gwlad. Erbyn 2024, disgwylir i un o bob pump o swyddi newydd fod ym maes STEM[4], ac mae amcangyfrifon yn dangos ein bod ni’n brin o 40,000 o weithwyr yn y maes bob blwyddyn yn y DU.

Pwysigrwydd STEM

Mae addysg STEM yn chwarae rôl hollol hanfodol i ddwy fenter sy’n allweddol i Lywodraeth Cymru.

Ar ei ffurf ddiweddaraf, mae deddfwriaeth y Cwricwlwm i Gymru yn cynnig bod addysg yn gwasanaethu pedwar diben, sef cefnogi dysgwyr i ddod yn: 

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.[5]

Mae hyn yn adeiladu ar waith blaenorol sydd wedi hir ddathlu amrywiaeth y gymdeithas Gymreig, ond sydd hefyd yn cydnabod bod dysgwyr yn rhannu’r profiad o fyw ac addysgu yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015[6] yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn gosod saith o nodau llesiant i Gymru, er mwyn hybu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach, a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac sydd â chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. 

Mentrau STEM

Ar ôl gweithio ar yr asesiadau rhifedd a llythrennedd ar-lein cenedlaethol, rwyf wedi gweld yn bersonol yr ymdrech a’r pwyslais a roddir gan Lywodraeth Cymru ar wella addysg drwy Gymru benbaladr.

O ran STEM, cafodd rhaglen STEM Gogledd Llywodraeth Cymru ei chreu i “ysbrydoli a chefnogi” disgyblion 11-19 oed yng Ngogledd Cymru, er mwyn iddynt ystyried pwysigrwydd y pynciau STEM i’w gyrfaoedd[7]. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru.

Mae gan wefan STEM Gogledd adnoddau arbennig i ddysgwyr. Dyma lwyfan cynhwysfawr sy’n cynnig y newyddion a’r cyfleoedd diweddaraf, ac sy’n caniatáu i ddefnyddwyr greu cyfrifon, er mwyn iddynt gael eu hysbysu o unrhyw gyrsiau, cyfleoedd mentora, gweithdai neu yrfaoedd posib. Mae gweld y fath arlwy o gyfleoedd amrywiol yn ysgogi’r rhai sy’n cymryd rhan, ac yn eu helpu i ddychmygu dyfodol disglair yn y maes. Dyma ambell enghraifft o’r adnoddau STEM sydd yno:

  • Clybiau STEM sy’n cael eu rhedeg gan bobl broffesiynol, ac sy’n para chwe wythnos. Maent yn dechrau o’r newydd bob hanner tymor gyda charfan newydd o fyfyrwyr.
  • Dysgwyr yn cynorthwyo mentoriaid i hwyluso grwpiau STEM.
  • Llysgenhadon STEM sy’n ysbrydoli myfyrwyr ifanc, ac yn eu hannog i ddilyn gyrfa yn y maes.
  • Heriau a chystadlaethau STEM.
  • Gweminarau gyda phobl broffesiynol, megis darlithwyr prifysgolion.

A minnau wedi mynd i’r ysgol a chael fy magu yn yr ardal (yng Nghonwy, yn benodol), gwn mai prin iawn oedd y cyfleoedd fel hyn yn y gorffennol. Mae’n galonogol gweld cymaint o fuddsoddiad sy’n mynd i mewn i addysgu ein pobl ifanc, gan roi profiad gwaith perthnasol iddynt a chymorth i ymuno â’r farchnad swyddi.

Casgliad

Mae cyfoeth o weithgareddau STEM yn rhan o hanes Gogledd Cymru. Serch hynny, mae nifer o heriau yn dal i wynebu’r rhanbarth, ac mae’r angen i gydlynu’r ddarpariaeth ar draws Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn yn bwysicach nag erioed o’r blaen. Mae megis un darn o jig-sô anferthol a chymhleth, a rhaid bod yn ofalus wrth gyfuno’r holl ddarnau eraill sy’n dod o feysydd polisi gwahanol, gan gynnwys addysg, sgiliau, y farchnad lafur, y Gymraeg, y Cwricwlwm i Gymru, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae gan AlphaPlus ddealltwriaeth dda o gynildeb a manylder y cyd-destun i’r prosiect hwn, a byddai mewn lle da iawn i ddarparu gwasanaethau gwerthuso.

Gwaith AlphaPlus ym maes STEM ac yng Nghymru

Mae AlphaPlus yn deall y system addysg yng Nghymru sy’n gefndir i’r gwerthusiad hwn. AlphaPlus arweiniodd y consortiwm a ddatblygodd yr asesiadau llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar-lein. Hyd yn hyn, mae’r prosiect hwnnw wedi golygu cydweithio â mwy nag 80,000 o ddysgwyr mewn cannoedd o ysgolion ledled Cymru.

Mae ein gwaith diweddar ym maes STEM yn cynnwys:

  • Y Sefydliad Ffiseg – mae AlphaPlus wedi gwneud gwaith gwerthuso i’r Sefydliad Ffiseg ar y Labordy mewn Lori a’r Rhwydwaith Ysgogi Ffiseg; roedd y cyntaf o’r ddau brosiect yng Nghymru. AlphaPlus hefyd wnaeth werthuso’r Prosiect Cydraddoldeb Ysgolion Cyfan i’r Sefydliad Ffiseg. Nod hwnnw oedd cynyddu nifer y merched sy’n cymryd rhan mewn ffiseg ar ôl troi’n 16 oed.
  • AlphaPlus wnaeth werthuso’r rhaglenni Tacsonomi SOLO ar ran Ymddiriedolaeth Addysg Carmel, a Meddwl yn Ddyfnach ar ran y Sefydliad Gwaddol Addysg. Y bwriad oedd gwella perfformiad TGAU Gwyddoniaeth mewn dau fath gwahanol o gwestiwn TGAU: profion ymarferol gofynnol, a’r cwestiwn ateb estynedig.

Mae’r erthygl yma ar gael yn Saesneg hefyd. (This article is also available in English.)


[1] https://www.walesonline.co.uk/news/education/pisa-wales-international-schools-2019-17346247

[2] https://seneddymchwil.blog/2019/12/04/sut-wnaeth-cymru-berfformio-yn-pisa-2018/

[3] https://www.walesonline.co.uk/news/education/wales-struggling-pupils-study-science-14524976

[4] https://businessnewswales.com/what-is-being-done-to-recruit-and-retain-more-women-in-stem/

[5] https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm/datblygu-gweledigaeth-ar-gyfer-dylunio-cwricwlwm/#curriculum-design-and-the-four-purposes

[6] https://www.futuregenerations.wales/cy/about-us/future-generations-act/

[7] https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Newyddion/Datganiadau-ir-wasg/Tachwedd-2019/Lansio-Prosiect-STEM-Gogledd.aspx